Beth yw meddalwedd alffa?
Ym meddalwedd alffa, mae'r nodweddion sylfaenol yn gweithio, ond mae angen eu datblygu yn bellach i gael set lawn o nodweddion. Unwaith i bob nodwedd gael ei alluogi, mae'r meddalwedd yn mynd i'r cyflwr beta, lle dadelfennir unrhyw gwallau sydd ar ôl. Wedi hynny, bydd yn cael "rhyddhad" ffurfiol. Mae meddalwedd rhydd yn tueddu cynnig meddalwedd mor gynnar ac sy'n bosibl yn y cylchred yma, efo'r bwriad o adael i nifer mawr o ddefnyddwyr ei brofi ac awgrymu gwelliannau. Mae hyn yn helpu i wneud y cynnyrch terfynol yn fwy swyddogaethol a deniadol.
Pa nodweddion sydd ar goll?
Dim llawer - mae'n fater o lenwi'r set gyfredol o nodweddion.
- Mae agweddau o'r gwirio gramadeg yn anghyflawn. Y rheswm yw bod y rheolau gwirio yn y fersiwn cychwynnol yma yn sylfaenol iawn. Wrth i ni ddatblygu'r rheolau, bydd Klebran yn gwella - ar rai testunau, hyd yn oed â'r rheolau sylfaenol yma, mae'n cystadlu yn dda â gwiryddion gramadeg perchnogol.
- Mewnforir y testun fel testun - h.y. ni chynhelir fformatio prosesydd geiriau. Os oes diddordeb, gallaf feddwl am ychwanegu'r gallu o fewnforio a gwirio dogfennau yn y fformat OpenDocument, a ddefnyddir mewn casgliadau swyddfa megis KOffice ac OpenOffice.org.
- Mae gan fersiwn arlein yma o Klebran un neu ddau o gyfyngiadau, am resymau perfformiad. Dim ond 900 nod (tua hanner tudalen) a ellir eu gwirio ar un adeg. Chwilir am eiriau amgen ymysg y ffurfiau sylfaenol yn unig, gan hepgor ffurfiau treigledig a ffurfdroëdig. Gellir gwaredu'r cyfyngiadau yma pan mae Klebran yn rhedeg yn lleol.
- Mae'r nodiadau treiglo cyddestun-sensitif, fydd yn ffurfio rhan o isgyfundrefn ramadeg, wedi'i datblygu yn rhannol yn unig yn y fersiwn yma - yn Saesneg yn unig y maent, a rhai yn unig sy'n cynnwys nodiadau llawn ac enghreifftiau.
- Yn Internet Explorer 6 (ac efallai 7?) ar Microsoft Windows (ond dim yn Firefox), bydd clicio ar eiriau gwall sy'n dechrau efo rhai llythyrau efo acen (e.e. ôl) yn rhoi'r neges "Ni allaf dderbyn hynny" (wedi'i ddychwelyd gan reolwaith gwirio newidynnau Klebran). Rhyw broblem amgodio yw'r achos - yn y cyfamser, os mae hyn yn eich poeni, ceisiwch ddefnyddio Firefox, sydd efo fersiwn Cymraeg o'r enw Gwelywiwr.
Rwyf wedi cael canlyniadau rhyfedd ar ddarn o'm testun ...
Buaswn yn falch o weld y testun - croeso i chi ei anfon i mi ar . Y rheswm mwyaf tebygol yw nad ydy Klebran yn dosrannu allbwn Gramadóir yn hollol gywir.
Ga'i lawrlwytho Klebran?
Gan fy mod yn dal i weithio ar Klebran, rwyf wedi penderfynu na fyddaf yn darparu lawrlwythiad tan iddo gyrraedd y cyfnod beta. Ond os oes rhywun sydd eisiau rhedeg Klebran yn lleol, ac sy'n barod i wario awr neu ddwy yn ffurfweddu Klebran a Gramadóir ar focs Linux (sy'n rhedeg openSUSE os oes modd!), croeso i chi gysylltu â mi ar , ac anfonaf y ffeiliau i chi a'ch helpu efo'r arsefydlu.
|