Beth yw Klebran?Klebran yw'r gwirydd gramadeg cyntaf i fod dan drwydded rydd (GPL), ac hefyd y gwirydd sillafu cyntaf i roi ystyr ei awgrymiadau. Mae'n rhan o gasgliad o offer geiriol a wyf wedi bod yn gweithio arnynt yn fy amser hamdden dros y 3 blydnedd diwethaf, efo'r bwriad o symleiddio'r cywaith gwreiddiol o gyfieithu gweithfwrdd cynradd Linux, KDE, i Gymraeg. Rwyf wedi creu golygydd cyfieithu sy'n gweithio mewn porydd (arlein ar Kyfieithu), rhedadur ar gyfer berfau Cymraeg (Rhedadur), a geiriadur sy'n cynnwys 12,000 o eiriau (ar hyn o bryd!) (Eurfa). Mae bob un o'r offer yma ar gael o dan y drwydded GPL, a gall pawb eu defnyddio neu eu newid. Dim ond rhyngwyneb yw Klebran i fersiwn Cymraeg Gramadóir, y gwirydd gramadeg seiliedig ar Perl y mae Kevin P Scannell wedi datblygu ar gyfer Gwyddeleg. Fel arfer, rwyf yn ddiolchgar iawn iddo am ei gyngor a cymorth wrth weithio ar y trosiad - go raibh maith agat, a Chaoimhín! Mae Gramadóir, sydd ar gael o dan y GPL hefyd, yn gadael i chi ysgrifennu rheolau manwl sy'n amlygu geiriau anghywir neu wallau gramadegol, ond mae'r fersiwn dechreuol yma o Klebran yn defnyddio rheolau sylfaenol yn unig; dylai'r allbwn wella wrth i ni wario rhagor o amser ar ysgrifennu rheolau. Beth yw meddalwedd rhydd / trwydded rydd / y GPL?Mae meddalwedd rhydd, sef meddalwedd a ddiogelir gan Drwydded Gyhoeddus Gyffredinol y GNU (GPL), yn gwarantu i'r defnyddiwr y rhyddid i ddefnyddio'r meddalwedd, i'w astudio, i'w gopïo, ac i'w wella. Gweler y wefan Eurfa am fwy o wybodaeth. Pam mae angen gwirydd gramadeg rhydd (dan y GPL)?Oherwydd bydd ei brosesau ar gael i bawb i'w hadolygu a'u gwella, a gall ei ddata gael ei ailddefnyddio mewn cyweithiau eraill. Ar gyfer ieithoedd lleiafrifol fel Cymraeg, gall ailddefnyddio adnoddau arwain at ddatblygu offer geiriol yn gyflymach a mwy cost-effeithiol. Mae clymu yr adnoddau o dan drwydded di-rydd yn atal hyn, a golygu bod pethau yn waeth i bawb. Pam nad ydy pawb yn defnyddio'r GPL felly?Cwestiwn da! Gall sefydliadau â chyllid preifat (e.e. cyhoeddwyr) ddewis peidio â rhannu eu gwaith, oherwydd angen cael elw o'u buddsoddiad. Ond efo cyllid cyhoeddus (e.e. ar gyfer ymchwilio, crynhoi neu gyhoeddi deunyddiau efo'r bwriad o gynyddu defnydd Cymraeg), nid oes esgus am beidio â defnyddio'r GPL. Mae gwneud hyn yn colledu'r iaith gan gyfyngu'r allbwn o bob punt sy'n cael ei wario: rhaid i'r cyhoedd dalu dwywaith ar gyfer yr un wybodaeth (unwaith i'w greu, ac unwaith i'w darllen mewn print), ni ellir defnyddio gwybodaeth a grëwyd ar draul y cyhoedd mewn cyweithiau newydd sy'n adeiladu ar yr hyn sydd wedi'i wneud eisoes gan bobl eraill, defnyddir arian cyhoeddus i ddarparu adnoddau preifat, ac yn y blaen. I ddarllen argymhellion academaidd mwy manwl ar gyfer y polisi yma, gweler The language belongs to the People! (Koster a Gradman), ac Implementing NLP projects for non-central languages (Streiter, Scannell a Stuflesser). Oes enghreifftiau?Oes - dibynna'r nifer o eiriau a gydnabyddir gan Klebran, a'r amgenion a gynigir tra cywiro sillafu, ar gynnwys Eurfa, yr unig eiriadur rhydd (dan y GPL) yn Gymraeg. Gellir gwella allbwn Klebran ag un ergyd petasai geirfaoedd eraill a ddatblygwyd efo cymorth cyllid cyhoeddus yn cael eu rhyddhau o dan y GPL hefyd. Efo trwydded rydd, gellir defnyddio gwaith o'r gorffenol yn haws gan bawb i greu adnoddau newydd fel thesawri, tagyddion a dosranyddion, sy'n arwain (yn y tymor hir) i offer fel cyfieithyddion awtomatig. Enghraifft arall yw Gramadóir, sy'n gwneud y gwaith caled ar gyfer Klebran. Heb i Kevin Scannell drwyddedu Gramadóir o dan y GPL, ni fuasai'n bosibl i mi ei ddefnyddio ar gyfer Klebran - buasai rhaid i mi ddatblygu rhywbeth o ddim byd (petaswn i'n gallu, sy'n annhebyg!). Golyga'r GPL y gellir rhannu gwaith a wneir mewn un lle yn haws mewn lle arall - hynny yw, rhagor o gynhyrchion arloesol i Gymraeg, wedi'u gorffen yn gyflymach - peth da lle mae adnoddau yn brin. Gweler, er enghraifft, y geiriadur Cernyweg-Cymraeg yma. Ond oes gwiryddion ar gael eisoes ar gyfer Cymraeg?Er bod gwirydd sillafu/gramadeg perchnogol ar gael (Cysgliad Canolfan Bedwyr), nid yw hyn o dan y GPL, ac ni ellir ei ddatblygu yn bellach gan neb arall, a rhed yn frodorol ar Microsoft Windows yn unig. Mae fersiwn Cymraeg o'r gwirydd sillafu rhydd (o dan y GPL) aspell ar gael, ond mae ganddo ddiffygion, ac nid ydy'n rhoi ystyron am ei awgrymiadau. Beth yw'r pwynt o ailddyfeisio'r olwyn?Mae gorfod gwario amser ar gasglu a thagio geiriau yn ddiflas iawn, yn arbennig pan fuasai'n bosibl i ddefnyddio'r amser ar ddatblygu offer mwy blaengar ac arloesol, rywbeth mwy manteisiol, ond mae'n hanfodol er mwyn creu deunyddiau heb faich (h.y. heb eu cloi) i'r dyfodol. Mae'r GPL yn sicrhau y bydd pawb yn gallu defnyddio'r deunyddiau yma ar gyfer unrhyw gywaith, ond mae'n gorfodi rhannu unrhyw offer neu ddata sy'n deillio ohonynt. Cael data ac offer ar gael o dan drwydded rhydd yw'r unig ffordd i sicrhau'r gwerth gorau o unrhyw arian cyhoeddus sy'n cael ei wario ar baratoi Cymraeg am ei lle yn yr oes ddigidol. Pam nad ydych yn defnyddio trwydded ddull-BSD?Y prif reswm ar gyfer trwydded ddull-BSD yw ei bod yn cynyddu defnydd yr adnoddau geiriol gan adael i bawb eu defnyddio mewn unrhyw ffordd, yn cynnwys eu hadeiladu mewn meddalwedd "caeëdig", h.y. meddalwedd na ellir ei gopïo neu'i newid gan y defnyddiwr. Prif diffyg trwydded o'r fath yw ei bod yn gadael i bobl gael mantais heb gyfrannu - mae'n gadael i gwmnïau preifat, er enghraifft, elwa o waith pobl eraill heb orfod rhoi rhywbeth yn ôl. Lle aeth buddsoddiad cyhoeddus i greu'r adnoddau, golyga hyn fod arian cyhoeddus wedi mynd at gynyddu elwau cwmnïau preifat heb ymateb cydadferol, ac efallai nad hyn oedd bwriad y Cynulliad neu'r Senedd. Y GPL yw'r unig drwydded sy'n gwarantu'r rhyddid mwyaf i ddefnyddio'r adnoddau, tra atal eu "herwgipio". Sut ga'i helpu efo Klebran?Mae'n hawdd iawn - rhowch destun cywir i mewn, a gweld os byddant yn cael eu dosrannu yn llwyddiannus (h.y. dim geiriau ar goll, dim testun dryslyd). Nid ydwyf yn poeni gormod ar hyn o bryd am "ffug-positifau" (geiriau wedi'u nodi fel gwallau pan nad ydynt) - gawn ni leihau'r rheiny fel cwblheir y rheolau. Wedyn, ceisiwch newid y testun i greu gwallau, a gweld os bydd Klebran yn eu nodi. Os oes dosbarth o wall nas sylwir o hyd, gadewch i mi wybod amdano - Os oes gennych ddiddordeb yn y geiriau yn Klebran, yn lle ei agweddau gramadegol, byddwch eisiau helpu lleihau'r nifer o wallau anhysbys neu "efallai estron" y mae'n eu dangos. Y ffordd orau o wneud hyn yw creu rhestrau o enwau priod, neu rhestrau o eiriau Cymraeg a ellir eu hychwanegu at Eurfa, a ddefnyddir gan Klebran wrth wirio (gweler uchod). Noder: rwyf yn methu derbyn rhestrau dan hawlfraint - buasai hyn yn annilysu'r GPL. Gweler y wefan Eurfa am fanylion pellach. |
