Mi allwch chi ddefnyddio'r fersiwn yma o Klebran i wirio sillafu a gramadeg darn testun o 900 nod (tua 10 brawddeg ar gyfartaledd). Mi fydd testun sy'n hirach na hyn yn cael ei flaendorri.

Os gewch chi ganlyniadau annisgwyl, cofiwch mai meddalwedd alffa yw hyn - gweler y dudalen Alffa am fwy o fanylion am sut y gallai Klebran ddatblygu dros y misoedd nesaf.

Unai rhowch eich testun eich hun yn y blwch i'r chwith, neu gopiwch rhannau o'r testunau isod a'u cludo ynddo:

Bwydydd parod (copyright BBC Cymru, Wednesday 11 October 2006)

Mae 30,000 o ddynion yng Nghymru yn bwyta bwydydd parod bob diwrnod o'r wythnos, yn ôl arolwg BBC Cymru. Ac mae gwaith ymchwil rhaglen X-Ray yn dangos fod ychydig llai na 40% o deuluoedd yn mynd â bwydydd parod adref ar gyfer swper o leiaf unwaith bob wythnos. Nod yr ymchwil oedd asesu pa mor iach oedd arferion bwyta'r Cymry. Cafodd 1,017 o bobl eu holi yn yr arolwg gan Beaufort Research rhwng Medi 7 a 12. Mae'r arolwg yn dangos fod 39% o'r boblogaeth (1.1 miliwn o bobl) yn arfer bwyta eu swper wrth wylio'r teledu. Ond mae'n bosib fod oedran yn ffactor. 'Crefu am fwyd' Roedd 68% o bobl dros 55 oed yn dweud eu bod nhw'n eistedd wrth y bwrdd bwyd. Dywedodd un cyfrannwr at y rhaglen, Darren Holmes, 20 oed o Benarth ger Caerdydd, ei fod yn pwyso mwy na 20 stôn (127 cilogram). Roedd ganddo bwysedd gwaed peryglus o uchel a chyfaddefodd nad oedd yn gwneud unrhyw ymarfer corff. "Ro'n i'n crefu am fwyd drwy'r dydd ac yn yfed pedwar litr o cola bob dydd." Ond ar ôl mis o gerdded i'w waith a newid ei ffordd o fyw dywedodd nad oedd yn crefu am fwyd gymaint.

Sabhal Mòr Ostaig (copyright BBC Cymru, Wednesday 11 October 2006)

Cychwynnodd y gwaith ar ganolfan ddiwylliannol gwerth £7 miliwn yng ngholeg Gaeleg Yr Alban, Sabhal Mòr Ostaig. Yn Sleat ar yr Ynys Hir neu Skye y mae'r coleg. Cafodd y coleg ei sefydlu yn 1973 pan oedd wyth o fyfyrwyr llawn-amser mewn hen ysgubor ond bellach mae'r coleg â champws £10 miliwn yn hybu'r iaith drwy'r byd ac yn addysgu mwy na 100 o fyfyrwyr. Bydd y ganolfan ddiwylliannol yn cynnwys stiwdio recordio teledu digidol, theatr a chyfleusterau ôl-gynhyrchu, canolfan celf weledol a swyddfa. "Mae lles economaidd y gymuned yn gysylltiedig â lles yr iaith Aeleg," meddai'r Athro Norman Gillies. Dywedodd y byddai'r ganolfan yn barod o fewn blwyddyn a 70 o swyddi'n cael eu creu. Mae Mentr yr Ucheldiroedd a'r Ynysoedd wedi buddsoddi £2.5 miliwn. "Mae'r coleg wedi sicrhau fod yr Aeleg yn fynegiant o ddiwylliant modern," meddai'r prif weithredwr Robert Muir. Ym mis Mai cafodd y coleg £3.5 miliwn oddi wrth Weithrediaeth Yr Alban. "Mae'r Alban yn falch iawn o'i gorffennol ond rydyn ni'n wlad â dyfodol llewyrchus," meddai'r Gweinidog Addysg, Peter Peacock, sydd â chyfrifoldeb dros yr iaith ar y pryd. "Rwy am i'r iaith Aeleg a'r diwylliant fod yn rhan o'n dyfodol nid yn wrthrych hanesyddol."

Geiriau ac ymadroddion treuliedig (copyright 2006 Rhiannon Ifans, Y Golygiadur, Cymdeithas Llyfrau Ceredigion)

Diogi meddwl sy'n gwneud i awdur ddefnyddio hen ymadroddion sydd wedi eu defnyddio canwaith o'r blaen hyd syrffed. Daw rhai geiriau'n ffasiynol dros dro a phawb yn eu defnyddio'n ddiatal. Wrth lunio gwaith a'r amser yn fyr, mae'n demtasiwn syrthio i'r trap o ddefnyddio ymadroddion treuliedig. Meddyliwch am ffordd fwy cyhyrog o fynegi eich meddwl. Lluniwch eich sgript eich hun yn lle llyncu ymadroddion parod.